Other cover

Diwrnod Marchnad Paroles

Brigyn

Album Other

Paroles de Diwrnod Marchnad

Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwm
Ond codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaen
Awyr lwyd, y bws yn hwyr
Fy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graen

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd.

Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwydd
Mae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwyth
Y cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarth
yn estyn am y peth agosaf o unrhyw werth

Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.

Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser paned
Dyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y byd
Mae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdeb
Ti'n gweld dy hun yn rhan o'r llun...
yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun.