Home
Top Artistes
Top Paroles
Ajouter Paroles
Contact
menu
search
Contactez-nous
Artiste:
Brigyn
Titre:
Diwrnod Marchnad
Assurez-vous que les corrections sont tout à fait exactes
S'il vous plaît, les mettez en évidence en quelque sorte!
Vous pouvez, par exemple, écrire
INCORRECT: avant la mauvaise ligne
CORRECT: avant la correspondant ligne correcte
Autrement, nous ne pouvons les corriger pas! Merci pour votre aide.
Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwm Ond codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaen Awyr lwyd, y bws yn hwyr Fy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graen Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod. Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno - Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof. Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd. Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwydd Mae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwyth Y cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarth yn estyn am y peth agosaf o unrhyw werth Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod. Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno - Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof. Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio... Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser paned Dyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y byd Mae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdeb Ti'n gweld dy hun yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun.